Croeso

Côr cymysg o Aberystwyth yw Côr ABC.

Enillodd y côr dlws Côr yr Ŵyl yng Ngŵyl Fawr Aberteifi 2018, ac fe gyrhaeddodd rownd derfynol y corau cymysg yng nghystadleuaeth Côr Cymru 2017 a 2019. Yn 2020 a 2022, y naill ochr a’r llall i’r pandemig, ymunodd y côr â’r canwr-gyfansoddwr Al Lewis ar dri achlysur i berfformio ei albym gysyniadol, Te yn y Grug, gan gynnwys yn Eisteddfod Genedlaethol 2022 a gynhaliwyd yn Nhregaron.

Yn ystod y pandemig, bu’r côr yn rhan o brosiect côr rhithwir yn un rhith i berfformio darn newydd o’r un enw a ysgrifennwyd gan y cyfansoddwr Andrew Cusworth yn ystod wythnosau cyntaf y cyfnod clo. Cafodd y perfformiad cyntaf ei ryddhau ym mis Mai 2020, gan ennyn sylw o bob rhan o’r byd ac ennill cymeradwyaeth uchel yn y categori ‘Prosiect Cyfnod Clo – Côr’ yng Ngwobrau Cerddoriaeth Glasurol Ddigidol 2020. Gallwch wylio perfformiad rhithwir cyntaf y darn ar waelod y dudalen hon.

Yn 2021, cymerodd y côr ran mewn prosiect ar y cyd â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a’i chymuned i gynhyrchu ffilm fer i groesawu’r celfyddydau yn ôl ar ôl y pandemig. Mae’r côr i’w glywed ar y trac sain yn perfformio darn newydd a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y prosiect gan Andrew Cusworth ar sail geiriau Dafydd John Pritchard.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r côr wedi ehangu ei repertoire i gynnwys cerddoriaeth gan lawer o gyfansoddwyr cyfoes, yn ogystal â cherddoriaeth gan gyfansoddwyr o Gymru. Mae’r côr hefyd wedi comisiynu darnau newydd, gan ddenu cynulleidfa newydd ac ennill clod mewn cystadlaethau.

Mae’r côr yn gymuned gyfeillgar a hwyliog, ac mae bob amser yn falch o groesawu aelodau newydd.

Côr ABC is a Welsh mixed choir based in Aberystwyth.

The choir was named Choir of the Festival at Gŵyl Fawr Aberteifi, Cardigan’s annual festival of music and verse, in 2018, and reached the mixed choir final of S4C’s choral competition, Côr Cymru, in 2017 and 2019. In 2020 and 2022, both before and after the pandemic, the choir joined with singer-songwriter Al Lewis on three occasions to perform his concept album, Te yn y Grug, including at the 2022 National Eisteddfod held in Tregaron.

During the pandemic, the choir took part in the yn un rhith virtual choir project to perform a new piece written by composer Andrew Cusworth during the first few weeks of lockdown. Following the première in May 2020, the project received attention from all over the world and was highly commended in the ‘Lockdown Project – Choir’ category of the Classical Music Digital Awards 2020. The first virtual performance of the piece can be viewed below.

During 2021, the choir participated in a project in conjunction with Aberystwyth Arts Centre and its community to produce a short film to welcome the arts back after the pandemic. The choir can be heard on the soundtrack performing a new piece by Andrew Cusworth commissioned for the project, based on words by Dafydd John Pritchard.

In recent years, the choir’s repertoire has extended from well-known Welsh classics to include music by a range of living composers, as well as new pieces commissioned by the choir, a move which has gained the choir a new audience and increasing recognition in competitions. 

The choir is very friendly and approachable, and is always pleased to welcome new members.